Mi fydd cyllideb S4C bron hanner ei maint presennol ymhen pedair blynedd, yn ôl undeb.

Mae Llywodraeth Glymblaid Prydain wedi datgan eu bod am dorri 24% oddi ar gyllideb y Sianel, ond yn ôl Bectu mi fydd yr arian ar gael mewn termau real yn llawer llai.

Hyd yma mae cyllideb S4C wedi cynyddu yn unol â chwyddiant, ond wrth i’r amod yna gael ei ddileu mae Bectu yn dadlau y bydd yn golygu mwy o wasgu ar bwrs y Sianel.

“Ar hyn o bryd mae chwyddiant yn 4.6%, ac os yw hynny am barhau am y pedair blynedd nesa’, rydych chi’n edrych ar doriadau o 42.5%,” meddai David Donovan (dde), prif swyddog Bectu yng Nghymru.

A gyda chyllideb y BBC wedi ei rhewi am y chwe blynedd nesaf, mae’r dyn undeb yn rhybuddio bod y gorfforaeth yn wynebu gorfod diswyddo staff oherwydd prinder arian.

“Wrth i chwyddiant gynyddu, mae’n doriad mewn termau real,” meddai David Donovan, sy’n rhybuddio na fydd gan y BBC yr arian i dalu am S4C.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd

(Llun: David Donovan yn siarad yn y rali dydd Sadwrn, gan Stephen J Hart)