Fe fydd prif Weinidog Irac, Nouri Maliki, yn cael pedair blynedd arall wrth y llyw ar ôl i ASau’r wlad lwyddo i gytuno o’r diwedd ar lywodraeth newydd.
Mae’r wlad wedi bod heb gyfeiriad am wyth mis ers yr etholiadau diwetha’, gyda phryderon cynyddol bod gwrthryfelwyr yn cymryd mantais o’r sefyllfa.
Yn y diwedd, mae aelodau o glymblaid y pleidiau Sunni, a oedd wedi bod yn gryf yn erbyn Nouri Maliki, wedi cytuno i wasanaethu yn ei lywodraeth.
Fe ddaeth y cytundeb ar ôl saith awr o drafod caled ddoe a neithiwr a hynny’n dilyn deuddydd o drafodaethau amrywiol.
Manylion bras y fargen yw y bydd y Llywydd Jalal Talabani – un o’r Cwrdiaid – yn cadw ei swydd seremonïol ac y bydd cyngor newydd yn cael awdurdod tros faterion diogelwch.
Ond mae’n ansicr faint o rôl fydd gan gyn Brîf Weinidog Irac, Ayad Allawi, a rhan pa mor weithredol fydd gan y Cwrdiaid.
Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi croesawu’r cytundeb gan ddweud ei fod yn “gam mawr ymlaen i Irac.”