Abertawe 0 Bristol City 1
Roedd e wedi rhybuddio ymlaen llaw, ac roedd yn hollol gywir wrth ddweud y byddai Bristol City’n wrthwynebwyr caled.
Er hynny, roedd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn dweud ei fod “yn syfrdan” ar ôl i’w dîm golli eu gêm gartref gynta’ y tymor hwn.
Roedd hynny yn erbyn tîm a ddechreuodd y gêm i lawr yng ngwaelodion y Bencampwriaeth.
Ar y blaen
Roedd Bryste wedi mynd ar y blaen ar ôl dim ond pum munud ar ôl i gôl-geidwad Abertawe, Dorus de Vries, wneud arbediad da ond heb allu dal gafael yn y bêl.
Er bod Abertawe wedi cael llawer o’r chwarae wedyn, ddaethon nhw ddim yn wirioneddol agos at sgorio ac roedd Rodgers yn siomedig iawn.
“R’yn ni i gyd wedi ein syfrdanu,” meddai wedyn. “D’yn ni ddim yn lico colli, yn enwedig gartre’. D’yn ni ddim yn lico’r blas.”
Trydydd o hyd
Er gwaetha’r golled, mae Abertawe’n aros yn drydydd yn y Bencampwriaeth ac maen nhw’n dal i fod o fewn pedwar pwynt i Gaerdydd yn yr ail le. Ond fe gollon nhw’r cyfle i dynnu’n glir o’r timau islaw.
Yn ôl rheolwr Bryste, Keith Miller, hwn oedd eu perfformiad gorau’r tymor hwn. “Mae Abertawe’n dîm da – y tîm pasio gorau yn y Bencampwriaeth”.
Llun: Stadiwm Liberty – y golled gynta