Reading 1 Caerdydd 1
Gôl ddadleuol a enillodd bwynt i Gaerdydd yn Reading, ond fe fethodd yr Adar Glas â chymryd y cyfle i fynd i frig y Bencampwriaeth.
Maen nhw’n aros un pwynt y tu ôl i QPR ac, yn ôl sylwebyddion, roedden nhw’n lwcus iawn i rannu’r pwyntiau neithiwr.
Roedd lluniau teledu’n awgrymu nad oedd y bêl gyfan wedi croesi’r llinell pan gafodd Jay Bothroyd y gôl i ddod â nhw’n gyfartal gydag 13 munud ar ôl.
Er iddo wrthod condemnio’r dyfarnwr, roedd rheolwr Reading, Brian McDermott, yn anhapus iawn gyda’r penderfyniad.
Roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn anghytuno: “Yn ôl y lluniau fideo a welson ni, roedd y bêl wedi croesi,” meddai.
Gair o gysur
Roedd yna air o gysur i Dave Jones gan McDermott: “Fe fydd pwy bynnag sy’n gorffen uwchben Caerdydd yn sicr o fynd lan,” meddai.
Roedd yn mynnu y dylai ei dîm fod wedi sgorio mwy na’r un gôl a gawson nhw ar ôl dim ond pum munud.
Roedd yna 3,500 o gefnogwyr Caerdydd ymhlith y dorf o fwy nag 17,000 yn Stadiwm Madejski.
Llun: Jay Bothroyd, prif sgoriwr y Bencampwriaeth