Mae Plaid Cymru’n ystyried cynlluniau i sefydlu cwmni dielw i redeg trenau Cymru.
Byddai’r cwmni’n buddsoddi unrhyw elw yn y rheilffyrdd eu hunain ac yn disodli cwmni preifat Arriva sydd â chytundeb i gynnal y gwasanaethau hyd at 2018.
Mae’r cynnig ymhlith syniadau sy’n cael eu hystyried gan y Blaid ar gyfer eu maniffesto yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011.
O dan gynlluniau Plaid, fe fyddai’r gwaith o reoli’r gwasanaeth yn syrthio ar weinidogion Llywodraeth y Cynulliad, a nhwthau’n arwyddo cytundeb gyda Llywodraeth Prydain.
Fe fyddai staff Arriva’n cael eu symud i’r cwmni newydd, sydd ar yr un math o batrwm â Glas Cymru, sy’n cynnal y gwasanaethau dŵr.
‘Teithio ar un tocyn’…
Yn ôl Plaid, byddai’r cynlluniau’n debygol o gynhyrchu £10 miliwn y flwyddyn i’w wario ar wella gwasanaethau.
Fe ddywedodd Cyfarwyddwr polisi Plaid Cymru, Nerys Evans, y byddai’r polisi yn “agor y drws i system trafnidiaeth genedlaethol” gyda theithwyr yn gallu teithio ar un tocyn, fel system cerdyn Oyster yn Llundain.
“Gallai integreiddio pob math o gludiant cyhoeddus o dan un brand ac un tocyn yn debyg i i fodel Transport for London, lle gallwch ddefnyddio un cerdyn i fynd ar y rheilffordd, y bysiau a gwasanaethau dan y ddaear.”