Mae’r corff sy’n gwarchod anghenion plant a theuluoedd yn y llysoedd yn Lloegr wedi cael ei gondemnio am fethu ag ymdopi â’r cynnydd mewn gwaith yn sgil achos marwolaeth Baby P.
Yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, mae gwasanaeth Cafcass wedi bod yn llusgo’u traed ac mae’r llysoedd teulu yn Lloegr wedi bod mewn anhrefn am nad yw’r corff yn addas i ddelio â’r gwaith.
‘Gwendidau sylfaenol’
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Margaret Hodge, doedd yr holl broblemau ddim oherwydd cynnydd mewn gwaith.
Roedd Cafcass, meddai, wedi methu â mynd i’r afael â’r “gwendidau sylfaenol yn ei ddiwylliant, ei reolaeth a’i berfformiad”.
“Mae’n dal i ddelio gydag etifeddiaeth o forâl isel, o lefela annerbyniol o uchel o absenoldeb oherwydd salwch a pherfformiad gwael rhai staff,” meddai.
Roedd wyth o bob deg ardal Cafcass yn Lloegr wedi cael adroddiadau gwael gan y corff arolygu Estyn.
‘Angen arweiniad’
Dyw’r Pwyllgor ddim yn rhannu hyder y corff ei hun y bydd pethau wedi gwella erbyn 2011 ac maen nhw’n galw am “arweiniad cryf” i wynebu’r problemau.
Mae Cafcass Cymru yn gorff wedi ei ddatganoli ac yn dod dan adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad ond mae Cymru hefyd wedi wynebu cynnydd mewn achosion yn ymwneud â lles plant yn y blynyddoedd diwetha’.
Llun – o wefan y Pwyllgor Cyfrifon