Fe allai pob ôl ddi-waith sy’n gwrthod cyfle am swydd golli eu budd-dal am hyd at dair blynedd, yn ôl Papur Gwyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Fe fydd hwnnw hefyd yn egluro’r syniad o un budd-dal cyffredinol i gymryd lle’r gwahanol gynlluniau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Y nod, yn ôl y Llywodraeth, yw sicrhau fod pobol ddi-waith yn cymryd cyfrifoldeb ac nad yw pobol yn cael eu cosbi’n ariannol wrth adael y dôl a dechrau gweithio.

Er y bydd angen gwario arian sylweddol i sefydlu’r drefn, y bwriad yw y bydd yr un budd-dal yn arbed biliynau yn y pen draw.

Ond fe fydd llawer o’r sylw ar y mesurau newydd yn erbyn pobol sy’n gwrthod cyfleoedd i weithio neu wneud gwaith cymunedol neu’n gwrthod cynnig am swyddi.

Manylion y gosb

Os bydd y Papur Gwyn yn troi’n ddeddf, fe fydden nhw’n colli’r Lwfans Chwilio am Waith, am dri mis y tro cynta’, chwe mis yr ail dro a thair blynedd wedyn.

Fe fyddai swyddogion y canolfannau gwaith yn cael yr hawl i ddileu’r budd-daliadau heb unrhyw hawl i apelio.

Ar hyn o bryd, mae ganddyn nhw hawl i atal budd-daliadau am chwe mis ond dyw’r grym ddim yn cael ei ddefnyddio’n aml. Yn ôl y Llywodraeth, y disgwyl yw y byddai hynny’n digwydd yn gyffredinol o dan y drefn newydd.

Yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn Iain Duncan Smith fydd yn cynnig y Papur Gwyn ond mae wedi cael cefnogaeth gref gan y Prif Weinidog.

“R’yn ni’n gwneud mwy nag unrhyw Lywodraeth i helpu pobol yn ôl i waith – dyna ein hochr ni o’r fargen,” meddai David Cameron mewn cyfweliad o Dde Korea. “Nawr mae’n rhaid i’r bobol ar fudd-dal wneud eu rhan nhw.”

Llun: Iain Duncan Smith sy’n cyflwyno’r Papur Gwyn  (o’i wefan)