Fe ddylai holl rym y gyfraith gael ei ddefnyddio’n erbyn y bobol a drodd at drais yn ystod protest y myfyrwyr yn Llundain ddoe, meddai Prif Weinidog Prydain.

Roedd gan bobol hawl i brotestio ond nid i ddefnyddio trais a thorri’r gyfraith, meddai David Cameron wrth baratoi at gynhadledd gwledydd cyfoethog y G20 yn Ne Korea.

Ac mae Heddlu Llundain wedi dechrau ar ymchwiliad i geisio deall sut y trodd gwrthdystiad heddychlon yn wrthdaro ffyrnig, gyda phlacardiau’n cael eu rhoi ar dân, ffenestri ac eiddo’n cael eu malu a nifer o bobol yn cael eu dal yn gaeth ym mhencadlys y Ceidwadwyr yn Nhŵr Millbank.

Mae’r papurau newydd heddiw’n llawn o luniau o’r gwrthdaro, gydag un dyn ifanc yn chwalu ffenest a thân yn y cefndir – roedd criw cymharol fach wedi gwahanu oddi wrth y brif brotest a rhai ohonyn nhw’n gwisgo masgiau.

“Fe welais i luniau o bobol oedd yn benderfynol o achosi trais a dinistr a gwneud difrod i eiddo ac mae hynny’n gwbl annerbyniol,” meddai David Cameron.

Cwestiynau am yr heddlu

Ond mae amheuon wedi’u codi hefyd am rôl yr heddlu, gyda dim ond 225 o swyddogion yn cadw llygad ar tua 50,000 o brotestwyr.

Mae’n ymddangos eu bod wedi trefnu i warchod rhai adeiladau allweddol, ond heb wneud hynny i brif swyddfa’r Ceidwadwyr. Roedden nhw wedi ystyried bod y gwrthdystiad yn un “risg isel”.

Roedd y digwyddiad yn “embaras” i Lundain ac i’r heddlu, meddai’r Comisiynydd Syr Paul Stephenson.

Mae trefnwyr y brotest, undeb myfyrwyr yr NUS, wedi condemnio’r trais ac mae wedi tynnu sylw oddi ar y rheswm tros wrthdystio – penderfyniad y Llywodraeth i dorri ar y grantiau i brifysgolion Lloegr a chaniatáu iddyn nhw dreblu ffioedd.

Llun: Y Daily Mail yn dangos y brotest