Bydd yr ysgrifennydd bwyd, darlledwr, awdur ac eiriolwr bwydydd lleol, Henrietta Green, yn traddodi’r brif araith mewn cynhadledd fwyd arbennig yn Arberth heddiw.

Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i cynhyrchwyr bwyd uniongyrchol i gwrdd â gwrando ar gyflwyniadau gan rhai o ffigyrau proffesiynol blaenllaw’r diwydiant ar sut i farchnata cynnyrch a chreu elw.

Pwysigrwydd hyrwyddo

Ymysg yr arbenigwyr hynny fydd yn cymryd rhan yn y gynhadledd mae Henrietta Green, sydd wedi cyd ysgrifennu strategaeth Waitrose ar gefnogi cynhyrchwyr lleol ac sy’n cael ei gweld fel arloeswr bwydydd uniongyrchol.

Bydd Green yn annerch y gynhadledd ar bwysigrwydd hyrwyddo cynnyrch a chydweithio a newyddiadurwyr bwyd.

“Mae bwyd da wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd am fwy o amser na carwn ddweud” meddai Henrietta Green.

“Mae cefnogi cynhyrchwyr lleol yn un o fy ngwerthoedd craidd ac rwyf yn croesawu’r gwahoddiad i annerch Cynhadledd Gwerthiant Uniongyrchol yma yn Arberth” ychwanegodd.

“Rwyf yn edrych ymlaen at rannu’n mhrofiadau fel ysgrifennydd bwyd, ymgynghorydd bwyd, sylfaenydd  FoodloversBritain ac eiriolydd cynnyrch lleol.”

Arbenigwyr eraill yn cymryd rhan

Mae disgwyl i dros 100 o  gynhyrchwyr a chynrychiolwyr y sector bwyd fynd i’r gynhadledd sydd yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o arbenigwyr eraill o fyd bwyd.

Ymysg y rhai hynny sy’n siarad bydd Nerys Howel, sy’n wyneb cyfarwydd ar nifer o raglenni S4C; Russell Ferguson Rheolwr Cyfarwyddwr cwmni marchnata RAM; a Nick Miller, Cyfarwyddwr Miller Research fydd yn trafod mesur llwyddiant mewn busnes.

Trefnydd y digwyddiad yw Meilyr Ceredig o Ymgyrch Fforch i Fforc, sy’n annog pobl i brynu bwyd yn uniongyrchol gan y cynhyrchwyr.

“Rydym yn falch iawn i groesawu Henrietta atom i rannu ei phrofiadau ar wybodaeth helaeth sydd ganddi hi o weithio yn y sector gyda chynhyrchwyr” meddai.

“Mae’r Gynhadledd Gwerthiant Uniongyrchol yn ddigwyddiad perffaith i unrhyw gynhyrchydd neu berchennog busnes bwyd i gasglu syniadau ar sut i gymryd eu busnes ymlaen mewn cyfnod o ddirwasgiad” meddai.