– ac mae hynny yn y lle cyntaf diolch i gyflenwad digonol Cymru o fwyd tymhorol blasus.
Wrth gwrs, yng nghanol yr holl wyliau bwyd y mae’r noson fwyaf yng nghalendr coginiol Cymru, sef Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2010-11.
Beth felly sydd gan y rhestr fer i gynnig ar gyfer ein calendr tymhorol? Dyma gipolwg gan golwg 360…
Gwledd y gaeaf
Dyw’r ffaith ei bod hi’n aeaf ddim yn golygu nad oes ‘na ddigon o gynnyrch i wneud pryd ffres a diddorol gyda’r nos.
Mae roll-call faith y llysiau tymhorol yn darllen yn dda: tatws, pwmpenni, swêds, betys, maip, bresych, bresych coch, blodfresych, pannas, artisiog Jerwsalem, cennin, moron, riwbob, sialóts, gwrd, seleriac a seleri – heb anghofio ffefryn pawb ar y fwydlen Dolig – sbrowts.
Yn ffodus, mae’n amhosib peidio â dod o hyd i lysiau lleol ffres yng Nghymru diolch i siopau fferm bendigedig (boed Llwynhelyg yng Ngheredigion neu Hawarden yn Sir y Fflint), marchnadoedd bwyd fel y rhai a drefnir gan Fenter Gymdeithasol RCMA Cyf yng Nghaerdydd, neu gynhyrchwyr lleol fel Springfields, Maenorbŷr a Primrose Organics yn Aberhonddu.
Mae’r olaf yn cynnig teithiau tywys o’r ganolfan a chyfle i fwyta pryd bwyd tymhorol yn y fargen ar amserau penodol o’r flwyddyn er mwyn eich ysbrydoli go iawn.
Hefyd ar galendr tymhorol Prydain dros y gaeaf y mae madarch chanterelle. O ran cynhyrchwyr yng Nghymru, mae cwmni Maesyffin Mushrooms yn Llandysul yn tyfu madarch shiitake organig ar blociau o dderw lleol gan ddefnyddio system arbennig – mae ganddynt yr un gwead cigog â chanterelles –
Dyw ffrwythau ddim yn bethau i’w cyfyngu i’r haf chwaith – mae llugaeron, cwins a phêrs yn dod i’r amlwg gyda’r gaeaf ac ar gael o amryw ffynonellau – neu mewn chytnis tymhorol gan gwmnïau fel Pant Glas Bach Preserves yn Llanasa (chytni betws gyda chic poeth unrhyw un?) neu Miranda’s Preserves yn Wdig (chytni betys gyda thro melys…).
O’r môr mawr, gaeafol y daw cregyn gleision, draenog y môr, cimwch, cregyn bylchog, crancod a wystrys. Chwiliwch eich cynhyrchwr arfordirol agosaf am gynnyrch ffres – mae Gill’s Plaice yn Aberdyfi yn gwerthu amrywiaeth ac yn mygu eu cynnyrch eu hunain, tra bod cwmni Claws Shellfish o Aberdaugleddau yn creu brenin y bwffe gyda’u quiche cimwch a chranc.
Mae’r calendr cig yn cynnwys cig dafad, gŵydd, grugiar, twrci, hwyaden wyllt a ffesant – mae’n dda felly bod y cigydd teuluol wrth galon y gymuned Gymreig o hyd. Mae cwmni Douglas Willis o Gwmbrân yn cynnig llu o bethau tymhorol gan gynnwys cig hela, hwyaden a gŵydd Gressingham, twrci, ffesantod, petris a selsig gyda llugaeron. Fel arall mae Ystrad Traditional Organics, Sir Gar yn bridio ac yn gwerthu cig dafad organig Wensleydale a Stad y Rhug yng Nghorwen yn gwerthu twrcïod a gwyddau organig, rhydd, bocsys a hamperi Dolig a thrimins fel selsig chipolata neu stwffin porc a chnau castan.
Yn ogystal, mae cigyddion a chwmnïau ledled Cymru yn cynnig creadigrwydd gyda phastai, pates a phob math o bethau cyffrous fel y pastai gêm a madarch gwyllt/twrci a llugaeron neu’r pate hwyaden/ffesant a wneir gan gwmni Patchwork o Ruthun.
Cyn ymestyn am y Stilton, cofiwch fod yna wledd o gaws glas o Gymru sy’n dal yr un cyfoeth cysurus ry’n ni gyd yn ysu am yn ystod y Dolig. Yn eu mysg y mae Caws Glas Teifi gan gwmni Teifi Farmhouse Cheese o Landysul – caws hufennog a chyfandirol gyda’r un llwydni gwyrddlas â Stilton, Per Las gan Caws Cenarth o Foncath, sydd â blas cryf ond bregus a chaws glas meddal Pont Gâr gan Gwmni Caws Caerfyrddin.