, gan gynnwys cymeradwyaeth arbennig gan y beirniaid i gydnabod eu hymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy.
Mae’r cwmni gweledigaethol o Aberhonddu yn mynnu sylw eto eleni wrth iddynt gyrraedd y rhestr fer yng nghategorïau’r ffrwythau a’r llysiau.
Dyma flas pum-pwynt gan Dr Paul Benham, Ffermwr Cyfannol a Chyfarwyddwr y ganolfan, ar yr hyn sy’n gwneud busnes yn gynaliadwy.
1.Rhaid darganfod a wynebu’r ffeithiau. Mae bellach yn dod i’r amlwg bod o leiaf 50% o’r bwyd a dyfir yn y DU yn cael ei wastraffu. Mae tua 30% o ollyngiadau carbon deuocsid Ewrop yn dod o siwrnai ein bwyd o’r hadau i’r plât. Os nad yw’n lleihau, bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith drychinebus ac fe fydd yn anodd tyfu bwyd.
Yn y DU, mae bwyd bron yn llwyr ddibynnol ar fewnbynnau enfawr o olew rhad, sy’n rhedeg allan.
Mae cyfnod silff nwyddau ein archfarchnadoedd yn fyr ac mae 40% o lorïau ein ffyrdd yn cludo’r bwyd iddynt.
Mae sefyllfa prinder bwyd yn ein dinasoedd yn debygol iawn yn y dyfodol felly.
2. …ac yna gwneud rhywbeth yn eu cylch. Mae cynhyrchu organig yn grêt, ond mae’n aml yn defnyddio tanwyddau ffosil wrth gynhyrchu a dosbarthu. Roedd system permaddiwylliant yn ffordd o greu systemau cynaliadwy. Es i yn ôl i’r cychwyn felly i ddysgu am ecoleg ac am ecosystemau naturiol.
Canlyniad hyn oll dros 25 mlynedd oedd Primrose Organics a’i system fwyd sy’n unol â natur.
Does dim angen ystâd enfawr – mae’r goedwig hanner erw yn cynnwys 100 o fathau o goed ffrwythau a chnau!
Mae’r bioamrywiaeth anhygoel yn creu system wydn, llawer cryfach na system ungnwd, mwy diwydiannol.
3. Mae’r pridd yn dal y pŵer – ry’n ni’n creu ffrwythlondeb cynaliadwy drwy ychwanegu deunydd organig.
Mae hwn yn dal y mwynau ac yn eu rhyddhau i’r planhigion, gan gynhyrchu bwyd gyda blas go iawn!
Ry’n ni hefyd yn gorchuddio’r pridd gyda thail gwyrdd er mwyn atal colledion gaeafol.
Ychydig iawn o amaeth sydd, er mwyn cynnal strwythur y pridd a phresenoldeb y ffwng buddiol ‘mycorrhyzal’.
4. Prin iawn yw’n defnydd o danwydd ffosil wrth gynhyrchu – mae pŵer pobl yn adnodd arbennig!
Mae sinciau carbon deuocsid yn gwneud iawn am y swm bach o danwydd ffosil a ddefnyddiwn.
Cwta yw ein cadwyn cyflenwi – gwerthir 85% o’n cynnyrch o fewn 5 milltir, y 15% arall o fewn 15 milltir.
Mae cynnyrch yn cael ei werthu o fewn awr neu ddwy, ond fel arfer o fewn 24 awr o leiaf!
5. Technolegau adnewyddadwy a deunyddiau ailgylchedig yw’r ffordd ymlaen. Mae paneli dŵr poeth solar ar y tŷ a’r Gwely a Brecwast. Mae bwyler pren biomas ac ynni o’r Good Energy Company yn ein cadw ni i fynd hefyd. Rhaid trio lleihau pecynnu a defnyddio papur a deunyddiau wedi’u hailgylchu pan yn bosib.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.primroseearthcentre.co.uk