Mae cwmni Singapore Airlines wedi atal tair o’u hawyrennau A380 rhag hedfan heddiw, ar ôl dod o hyd i broblemau gydag injan Rolls-Royce yr awyrennau.

Daw’r cyhoeddiad hwn llai nag wythnos wedi i injan ar un o awyrennau A380 cwmni Qantas ffrwydro yn yr awyr ar ôl gadael Singapor.

Mae profion wedi datgelu olion olew yn injan tair o awyrennau A380 y cwmni, meddai Singapore Airlines mewn datganiad.

Fe fydd yr awyrennau, sydd yn Melbourne, Sydney a Llundain ar hyn o bryd, yn cael eu hedfan yn ôl i Singapore, lle y bydd injans newydd yn cael eu rhoi ar y tair awyren, meddai’r cwmni.

“R’yn ni’n ymddiheuro i’n cwsmeriaid am darfu ar eu teithiau, ac ry’n ni’n gobeithio y byddan nhw’n deall,” meddai Nicholas Ionides ar ran y cwmni.

Ond dywedodd y cwmni nad oedd y gwaith ar yr awyrennau hyn yn effeithio ar wasanaeth eu wyth awyren A380 arall.


Wythnos i’w hanghofio i’r Airbus A380

Yr wythnos diwethaf, fe benderfynodd cwmni Qantas na fyddai’r un o’i awyrennau A380 yn hedfan nes bod profion yn cael eu cynnal ar yr injans, yn dilyn ffrwydrad injan un o’i awyrennau Airbus A380 dros ynys Batam, Indonesia.

Bu’n rhaid i’r awyren lansio ar frys yn Singapor.

Dywedodd Prif Weithredwr Qantas ddydd Llun fod profion wedi dangos ôl olew yn nhyrbeini tair injan ar dair awyren A380 gwahanol.

Mae gan Qantas chwe awyren Airbus A380, ac mae’r chwech wedi eu hatal rhag hedfan nes bydd y broblem wedi ei datrys.