Mae cyfres o ffrwydradau yn targedu cymuned Gristnogol Baghdad wedi lladd pedwar person a niweidio 19 arall, heddiw.
Ffrwydrodd o leiaf 11 o fomiau cartref o fewn awr i’w gilydd mewn ardaloedd Cristnogol yn Baghdad.
Roedd y bomiau yn targedu cartrefi Cristnogion Irac, yn ogystal ag ardaloedd Cristnogol o fewn ardaloedd Sunni.
Un o gyfres o ymosodiadau diweddar
Mae’r trais diweddaraf yma yn dystiolaeth o’r perygl cynyddol i’r gymuned fach o Gristnogion, meddai Youndaem Kana, sy’n aelod Cristnogol o Senedd Irac.
Yr wythnos diwethaf, cafodd 58 eu lladd mewn ymosodiad ar Eglwys Gadeiriol Gatholig yn Baghdad.
Mae Al Qaida wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hwnnw, ac wedi bygwth mwy o drais yn erbyn Cristnogion Irac.
Cafwyd cyfres o ffrwydradau yn Baghdad ddoe hefyd, gyda chyfres o fomiau yn taro tri thŷ oedd Cristnogion yn berchen arnyn nhw. Roedd y tai yn digwydd bod yn wag ar y pryd.
Yr ymosodiadau diweddaraf yw’r gwaethaf yn erbyn y gymuned Gristnogol yn Irac ers 2003, ac mae nifer o Gristnogion y wlad yn ystyried ymuno â’r filiwn o Gatholigion sydd eisoes wedi gadael ers cwymp Saddam Hussein.