Mae hyfforddwr De Affrica, Peter de Villiers yn credu y bydd Cymru’n newid eu mewnwr ar gyfer y gêm yn erbyn y Springboks dydd Sadwrn.

Mae nifer o gyn chwaraewr Cymru wedi bod yn galw am newid partneriaeth Stephen Jones a Mike Phillips am Dan Biggar a Richie Rees.

Mae disgwyl y bydd Lee Byrne yn dychwelyd i safle’r cefnwr, ac felly mae James Hook hefyd yn opsiwn arall yn safle’r maswr.

Roedd Cymru wedi rheoli Awstralia ymysg y blaenwyr y penwythnos diwethaf, ond ni lwyddodd cefnwyr Cymru i fanteisio ar hynny.

Mae hyfforddwr De Affrica yn credu y bydd newid yn safle’r mewnwr, gyda James Hook yn chwarae yn y canol gyda Stephen Jones yn parhau yn safle’r maswr.

“R’yn ni’n disgwyl iddyn nhw wneud newidiadau i bartneriaeth y maswr a’r mewnwr er mwyn cyflymu’r gêm a sicrhau bod y bêl yn cael ei lledaenu’n gyflym,” meddai Peter de Villiers.

“Rwy’n credu y byddan nhw’n dewis mewnwr cyflymach, ac y bydd Hook a Jones yn gwneud y penderfyniadau er mwyn denu gweddill y cefnwyr i mewn i’r gêm.

“Fe allen nhw hefyd ddewis yr wythwr mawr, Andy Powell, a greodd lot o broblemau i ni cwpl o flynyddoedd ‘nôl.”

Fe fydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn enwi ei garfan i wynebu’r Springboks yfory.