Mae comisiwn wedi penderfynu nad oedd heddlu arfog wedi gorymateb wrth arestio dyn yng Nghaerdydd oedd wedi ei ddrwgdybio ar gam o feddu ar ddeunydd ffrwydrol.

Roedd Victor Frederick wedi cwyno am Heddlu De Cymru ar ôl iddo gael ei arestio gan swyddogion arfog y tu allan i’w gartref wrth i’w bartner a’i ferch 12 oed wylio.

Penderfynodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu bod yna sail i rai o’i gwynion ond bod yr heddlu wedi ymddwyn yn “gywir o ystyried y wybodaeth oedden nhw’n ymateb iddi”.

Cafodd Victor Frederick, sy’n gerddor, ei arestio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i ddeunydd amheus mewn tŷ yn ardal Trelluest Caerdydd ble’r oedd gan ei fand stiwdio.

Roedd o’n dychwelyd adref pan gafodd ei arestio gan yr heddlu ar ddrwgdybiaeth o feddu ar ddeunydd oedd yn debygol o gael ei ddefnyddio er mwyn creu ffrwydron.

Cwynodd Victor Frederick bod yr heddlu wedi ei ddadwisgo yn y stryd y tu allan i’w dŷ. Cafodd ei gadw yn y ddalfa am 21 awr cyn cael ei ryddhau heb gyhuddiad yn ei erbyn.

Ymddiheurodd Heddlu De Cymru i’r teulu pum wythnos ar ôl yr arestiad ym mis Chwefror y llynedd.

Gefynnau llaw

Cefnogodd y comisiwn ambell un o’r 22 cwyn yr oedd o wedi ei wneud, gan gynnwys un ei fod o wedi dioddef anafiadau i’w ddwylo a’i arddyrnau oherwydd bod y gefynnau yn rhy dynn.

Ond doedd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ddim yn cytuno nad oedd yr arestiad yn seiliedig ar dystiolaeth gredadwy, na chwaith bod Heddlu De Cymru wedi gweithredu mewn modd hiliol.

“Mae’n siŵr ei fod o’n brofiad erchyll i Mr Frederick gael ei arestio gan heddlu arfog o flaen ei bartner a’i blentyn,” meddai’r comisiynydd yng Nghymru, Tom Davies.

“Doedd o ddim wedi cyflawni unrhyw drosedd a doedd ganddo ddim syniad pam ei fod o’n cael ei atal a pam fod ei deulu yn cael eu bygwth gan heddlu arfog.

“Byddai esboniad ac ymddiheuriad buan gan yr heddlu yn dilyn beth ddigwyddodd wedi bod o ddefnydd mawr er mwyn iddo ddeall beth oedd yr heddlu yn ei wneud.”