Fe fu farw mam ifanc ar ôl i ddau feddyg gwahanol ei gyrru hi’n ôl adref o’r ysbyty, datgelwyd heddiw.

Fe fu farw Catherine Townley, 21, o Lanishen, Caerdydd, ar 20 Hydref ar ôl iddi lewygu yng nghartref ei mam.

Honnodd ei mam Nadena Townley y byddai ei merch hi dal yn fyw heddiw os nad oedd meddygon wedi ei thrin hi fel “gwastraff amser”.

Dywedodd Nadena Townley nad oedd meddygon wedi gwrando arni pan ddywedodd hi fod yna hanes o geuladau gwaed yn ei theulu.

Mae archwiliad post mortem wedi’i gynnal ond doedd dim penderfyniad terfynol ynglŷn â beth achosodd marwolaeth Catherine Townley.

Wnaeth y fam ifanc fyth ddod ati’i hun ar ôl llewygu fis diwethaf o flaen ei mab naw mis oed, Lucas.

Y cefndir

Roedd teulu Catherine Townley wedi mynd â hi i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl iddi gwyno ynglŷn â phoenau yn ei brest a diffyg teimlad yn ei bysedd.

Fe wnaeth y doctor roi moddion gwrthfiotig iddi a’i gyrru adref.

O fewn pum awr roedd ei chyflwr wedi gwaethygu ac fe aeth ei theulu â hi’n ôl i’r un ysbyty. Dywedodd y meddygon yno ei bod hi’n dioddef o asthma ac fe gafodd mewnanadlydd.

Y diwrnod wedyn roedd hi’n fyr ei gwynt ac yn taflu i fyny ac fe aeth i weld ei meddyg teulu a ddywedodd bod ei chorff yn ymateb i’r moddion gwrthfiotig.

Cafodd ei gyrru adref unwaith eto ar ôl i’r meddyg ddweud ei bod hi wedi tynnu cyhyr yn ei brest.

Llewygodd yng nghartref ei mam yn ddiweddarach a chael ei brysio i’r ysbyty mewn ambiwlans yn anymwybodol.

Wrth i’r ambiwlans gyrraedd Prifysgol Athrofaol Cymru ataliodd ei chalon ac fe gafodd ei dadebru a’i rhoi ar beiriant cynnal bywyd.

Cytunodd ei theulu i droi’r peiriant i ffwrdd ar 20 Hydref, 15 awr ar ôl iddi gyrraedd yr ysbyty.

‘Dim gobaith’

“Dywedodd y doctoriaid nad oedd yna unrhyw obaith. Fe wnaethon ni ddweud bod angen troi’r peiriant i ffwrdd,” meddai Nadena Townley, 39, wrth bapur newydd y South Wales Echo.

“Pe baen nhw wedi gwrando arna’i, fe fyddai Catherine dal yma. Ond roedden nhw’n meddwl mai gwastraffu amser oeddem ni a nawr mae fy merch fach i wedi mynd.

“R’yn ni wedi torri ein calonnau – roedd hi’n ferch hyfryd gyda mab prydferth. Roedd ganddi ddyfodol gwych o’i blaen hi.”

Doedd neb o Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ar gael er mwyn cynnig sylw.

Maen nhw am gynnal ymchwiliad i weld a oedd meddygon wedi methu ac adnabod difrifoldeb ei chyflwr.