Mae’r Crusaders wedi datgelu bod tri o’u chwaraewyr eisoes wedi arwyddo cytundebau newydd, cyn dechrau’r tymor nesaf ym mis Ionawr.

Mae Vince Mellars wedi arwyddo cytundeb fydd yn ei gadw gyda’r clwb tan 2013 tra bod Peter Lupton a Frank Winterstein wedi arwyddo cytundebau dwy flynedd gyda’r clwb Cymreig.

Fe gafodd Mellars dymor cyntaf da iawn yn y Super League eleni gan sgorio 12 cais mewn 24 gêm, ac fe chwaraeodd ran allweddol wrth helpu’r clwb Cymreig i gyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

“Rwy’n mwynhau fy amser yn Wrecsam ac wrth fy modd cael aros tan o leiaf 2013,” meddai Mellars.

“Roedd y clwb wedi rhoi’r cyfle i mi gael chwarae yn y Super League ac rwy’n teimlo fy mod i wedi chwarae rygbi gorau fy ngyrfa.”


‘Ardderchog’

Mae hyfforddwr newydd y Crusaders, Iestyn Harries wedi croesawu’r newyddion bod Vince Mellars wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb.

“Mae Vince wedi bod yn chwaraewr ardderchog i ni. Mae’n fawr, yn gryf ac yn ganolwr athletig sy’n sgorio cwisiau,” meddai Harries.

“Mae gan Vince agwedd gwych ac rwy’n hyderus y bydd 2011 yn flwyddyn fawr arall iddo.”

Mae Iestyn Harries hefyd yn falch iawn bod Lupton a Winterstein wedi ymrwymo i’r clwb o Wrecsam.

“Mae’n wych bod Peter a Frank wedi arwyddo am ddwy flynedd arall. Roedd Peter wedi gorfod chwarae mewn sawl safle’r tymor diwethaf oherwydd anafiadau ac fe chwaraeodd yn dda iawn.

“Roedd Frank wedi cael tymor addawol. Dim ond 23 oed ydi o ac fe fydd o’n gwella eto. Mae’n rhan bwysig o’r garfan ac mae gennym obeithion mawr iddo ar gyfer y tymor nesaf.”