Mae tensiynau dros hawliau dynol yn China yn bygwth taflu cysgod dros ymweliad David Cameron â’r wlad heddiw.

Mae yna bwysau ar David Cameron i dynnu sylw at record hawliau dynol y wlad a’r ffaith bod enillydd Gwobr Heddwch Nobel 2010, Liu Xiaobo, wedi’i garcharu yno.

Ond mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd o’n canolbwyntio ar fasnach yn ystod ei drafodaethau gyda phennaeth y blaid gomiwnyddol yn China, Wen Jiabao.

Mae 43 ffigwr busnes wedi teithio gyda David Cameron i’r wlad ac maen nhw eisoes wedi arwyddo cytundebau werth miliynau o bunnoedd.

Hedfan i Lundain

David Cameron yw’r arweinydd cyntaf i ymweld â’r wlad ers i Liu Xiaobo ennill Gwobr Heddwch Nobel ar 8 Hydref.

Cododd y mater ei ben eto heddiw ar ôl i heddlu China atal ei gyfreithiwr rhag hedfan i Lundain.

Cafodd Liu Xiaobo ei garcharu am 11 mlynedd am danseilio’r llywodraeth ym mis Rhagfyr, ar ôl cylchlythyru deiseb yn galw am ddiwygiadau democrataidd.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n crybwyll hawliau dynol yn ystod ei drafodaethau gydag arweinwyr China “gyda pharch a dealltwriaeth, gan gydnabod fod gennym ni hanes ar wahân”.

Ond nid oedd hi’n amlwg y byddai’n crybwyll achosion penodol, fel Liu Xiaobo.