Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi talu teyrnged i filwr o Gymru fu farw yng Nghyprus ddydd Sul ar ôl dychwelyd o gyfnod yn Afghanistan.

Er nad yw’r Weinyddiaeth wedi enwi’r bachgen, maen nhw’n dweud ei fod yn rhan o Sgwadron 1 Catrawd y RAF.

Mae Golwg360 yn deall mai Scott Hughes, 20 oed, o’r Felinheli yw’r milwr. Bu farw ar ôl cael ei daro gan gwch cyflym pan oedd ar gyfnod ‘dod ato’i hun’ gyda’r RAF yn Akrotiri, Cyprus.

“Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau meddygol, ni wnaeth y milwr wella o’r anafiadau ddioddefodd yn y ddamwain,” meddai James Hill, llefarydd ar ran Byddin Prydain yn Afghanistan.

“Mae’n arbennig o drist iddo farw wrth ddychwelyd adref o daith ddyletswydd yn amddiffyn ei gyd-filwyr a pobol Afghanistan.

“Mae ein meddyliau a’n gweddïau ni gydag ef a’i deulu. Mae’n golled fawr.”

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.

Mae dros fil pum cant o bobol wedi ymuno â tudalen deyrnged Facebook i gofio am y milwr ifanc o Gymru: ‘R.I.P. Scott Hughes, gone but not forgotten’.

(Llun: Oddi ar y wefan Facebook)