Mae mam yn pryderu am ei mab ar ôl iddo fynd ar goll wrth chwilio am Arch Noa ar Fynydd Ararat yn Nhwrci.
Mae Donald Mackenzie, 47 oed, wedi bod ar goll ers 14 Hydref pan fethodd a dychwelyd o daith i fyny’r mynydd i chwilio am yr arch.
Mae’n debyg bod Donald Mackenzie yn teithio i’r mynydd 16,945 troedfedd bob blwyddyn yn y gobaith o ddod o hyd i’r arch.
Yn ôl y Beibl fe wnaeth yr arch ddod i stop ar ben y mynydd ar ôl y dilyw,
Roedd Donald Mackenzie yn awyddus i ddychwelyd yno eleni ar ôl i grŵp Tsieineaidd honni eu bod nhw wedi dod o hyd i ddarnau o’r arch.
‘Anturiwr dewr’
“Roedd o fewn 50 metr o’r arch pan oedd o yno o’r blaen ac roedd o eisiau mynd yn ôl,” meddai ei fam Margaret Mackenzie. “Roedd o’n gwbl benderfynol.
“Doedd neb eisiau iddo fynd ond doedd hi ddim yn bosib ei ddal o’n ôl. Mae o’n anturiwr ac yn ddewr iawn.”
Siaradodd y Sgotyn, o Stornoway ar Ynys Lewis, gyda’i frawd am y tro olaf ar 20 Medi a dyw’r teulu heb glywed ganddo ers hynny.
Rhoddodd cyfaill wybod i awdurdodau Twrci nad oedd o wedi dychwelyd yn ôl i lawr y mynydd ar Hydref 14.
Mae ei fam sydd hefyd yn byw ar yr ynys wedi cysylltu gyda’i chynrychiolydd yn Senedd yr Alban ac mae Interpol yn ceisio dod o hyd i fwy o fanylion ynglŷn â beth ddigwyddodd i Donald Mackenzie.
“Fe allai o fod mewn twll yn byw ar eira yn rywle, wyddwn ni ddim. Rydw i’n cydio mewn unrhyw obaith bach,” meddai ei fam.
“Yn y wlad yma fe fyddai yna hofrennydd neu awyren yn chwilota amdano ond efallai nad ydyn nhw eisiau gwario’r arian, mae o’n wlad mor wahanol.”