Mae tad merch gollodd ei lle ar gyfres yr X Factor dros y penwythnos wedi beirniadu’r rhaglen gan ddweud mai “ffics” yw’r cyfan.

Penderfynodd y beirniaid gadw’r gantores ddadleuol Katie Waissel ar y rhaglen, er iddi anghofio geiriau ei chân, ac er iddyn nhw gyfaddef mai Treyc Cohen oedd y gantores orau.

Mae Fitzgerald Cohen, 68 oed, wedi galw am ymchwiliad gan gwestiynu pam i un o’r beirniaid, Cheryl Cole, wrthod pleidleisio.

Mae’n debyg bod awdurdod Ofcom wedi derbyn mwy nag 1,000 o gwynion ar ôl i Cheryl Cole wrthod dewis rhwng Treyc Cohen neu Katie Waissel.

Yn ôl papur newydd The Sun roedd Katie wedi cael llai o lawer o bleidleisiau na Treyc.

“Mae o’n ffics. Mae o mor syml â hynny,” meddai Fitzgerald Cohen wrth y papur newydd.

“Does gen i ddim syniad pam bod Treyc allan o’r rhaglen. Hi oedd y gantores orau o bell ffordd a ddylai hi ddim bod wedi colli yn erbyn Katie.

“Mae yna lot yn mynd ymlaen tu ôl i’r llenni fel bod rhai o’r cystadleuwyr yn cael eu cadw i mewn.

“Dyw’r rhaglen ddim byd i’w wneud gyda chanu. Roedd Cheryl yn gwybod mai Treyc oedd y gantores orau ond fe wnaeth hi eistedd yn ôl a gadael iddi fynd.”