Fe fydd toriadau awdurdodau lleol yn cael mwy o effaith ar Gymru na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Rhybuddiodd y Cynghorydd John Davies, arweinydd y gymdeithas, mai’r cyngor yw’r unig gyflogwr o bwys mewn sawl ardal o Gymru.
“Bydd yr effaith yn waeth yng Nghymru gan fod 27.5% o’r gweithlu (344,000 o bobol) yn gweithio yn y sector cyhoeddus o’i chymharu â 21.2% ar gyfartaledd yng ngweddill y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae 182,000 o’r rheiny’n gweithio yn ein cynghorau lleol ac, mewn sawl ardal, y cyngor yw’r unig gyflogwr o bwys.
“Mae llawer o bwyslais ar allu’r sector preifat i ddod i’r adwy a chynnig gwaith amgen i’r rhai sydd wedi colli eu swyddi yn y sector cyhoeddus.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd hynny’n anodd yng Nghymru gan fod sawl cwmni preifat yn dibynnu ar gytundebau’r sector cyhoeddus.”
Dywedodd bod pobol Cymru yn hen gyfarwydd ag effaith andwyol diweithdra hirdymor ar eu cymunedau.
“Yn ogystal ag effeithio ar ansawdd bywydau unigolion a theuluoedd, gallai rhagor o ddiweithdra niweidio’n cymdeithas ni gan danseilio economi’r wlad i gyd,” meddai.
”Fe allai hefyd arwain at gostau ychwanegol yn sgîl cynnydd yn nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau a rhagor o alw am wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac adrannau gofal cymdeithasol.”
‘Cyflogwyr creulon’
Mae disgwyl i effaith y toriadau ar Gymru ddod yn gliriach pan fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei gyllideb ddrafft ar 17 Tachwedd.
Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y bydd rhaid i Gymru wneud toriadau o 7.5% dros y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Gordon Kemp, llefarydd WLGA dros Gyflogaeth, bod y toriadau’n siwr o daro’r gweithlu yn galed gan mai dyna le mae lot o arian y cynghorau’n cael ei wario.
Rhybuddiodd hefyd na ddylai’r cynghorau eu hunain gael y bai am orfod gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn a diswyddo gweithwyr.
“Mae cynghorau wrthi’n ystyried y dewisiadau fel mater o frys i ofalu y byddan nhw’n cadw cymaint o swyddi a gwasanaethau ag y bo modd ac yn lleddfu effaith y toriadau yn eu hardaloedd,” meddai.
“Ond bydd diffyg ariannol o sawl miliwn, a chan fod y cynghorau’n gwario dros hanner eu harian ar gostau’r gweithlu, fydd dim modd eithrio amodau a thelerau gwaith rhag cael eu hystyried wrth chwilio am arbedion.
“Mae’r anawsterau yma’n effeithio ar bob cyngor yng Nghymru a fydd ymdrechion i ddarlunio’r cynghorwyr yn gyflogwyr creulon ddim yn deg nac yn helpu i ddatrys yr argyfwng ariannol presennol.”