Fe fydd gorlenwi ar drenau yn gwaethygu dros y pedair blynedd nesaf er bod teithwyr yn talu mwy am eu tocynnau, rhybuddiodd Aelodau Seneddol heddiw.
Mae rhagolygon diweddaraf yr Adran Drafnidiaeth yn awgrymu eu bod nhw’n mynd i fethu a chyrraedd pob un o’u targedau ar gyfer cynyddu nifer y seddi sbar sydd ar gael i deithwyr ar drenau erbyn Mawrth 2014.
Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin mae’n annhebygol y bydd yr Adran Trafnidiaeth yn gallu cynnal main y llefydd sydd yna i deithwyr ar hyn o bryd.
Fe fydd yna 15% yn llai o lefydd sbar yn Llundain yn ystod awr frys y bore, a 33% yn llai mewn dinasoedd mawr eraill.
“Dyw hi ddim yn amlwg i deithwyr ble mae’r arian o’r tocynnau teithio drutach wedi ei wario,” meddai’r adroddiad.
Ar drenau cwmni Southeastern mae “teithwyr yn talu pris uchel er mwyn cefnogi gwasanaethau newydd sydd ddim yn aros yn eu gorsafoedd ac yn gwneud bron i ddim byd er mwyn mynd i’r afael gyda phroblem trenau sy’n rhy llawn”.
Yn ôl y pwyllgor ychydig iawn o wybodaeth oedd gan yr Adran Drafnidiaeth ynglŷn â faint o bobol oedd yn defnyddio gwahanol rannau o’r rhwydwaith ar wahanol adegau.
Mae’r adroddiad yn argymell bod pob cerbyd newydd yn cael offer er mwyn cyfri faint o bobol sy’n teithio ar bob trên, a phryd.
Talu mwy am waeth gwasanaeth
Dywedodd Alexandra Woodsworth o fudiad yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth Well ei fod o’n “annerbyniol bod yr ymdrech i atal trenau rhag gorlenwi yn methu i’r fath raddau”.
“Er bod disgwyl i brisiau tocynnau gynyddu 31% dros y pum mlynedd nesaf, does dim awgrym bod y broblem yn mynd i gael ei ddatrys.
“Pam ddylai teithwyr dalu mwy am wasanaethau gwaeth?”
Dywedodd y gweinidog trafnidiaeth Theresa Villiers wrth raglen Today 4 bod beirniadaeth y pwyllgor yn “ddifrifol iawn”.
“Rydym ni wedi etifeddu’r rhaglen yma gan ein rhagflaenwyr ac mae’r feirniadaeth yn adlewyrchu ein beirniadaeth ni dros y tair blynedd diwethaf,” meddai.