Mae cwmni theatr mewn addysg yn ofni am ei ddyfodol ac wedi lansio ymgyrch a fideo ar-lein i’w hachub ei hun.
Mae cwmni Theatr Gwent yn ofni mai’r cynhyrchiad nesa’ fydd yr ola’ ganddyn nhw ar ôl i Gyngor Celfyddydau Cymru benderfynu peidio â rhoi arian iddi.
Ym mis Mehefin y clywson nhw eu bod ymhlith y cwmnïau sy’n diodde’ oherwydd toriadau gwario ac na fydd rhagor o grant iddyn nhw ar ôl mis Mawrth nesa’.
Heb yr arian hwnnw, madden nhw, fe fydd hi’n amhosibl iddyn nhw ddarparu eu gwasanaeth Theatr mewn addysg i ysgolion yn ardal Gwent.
Maen nhw hefyd wedi lansio fideo ar wefan YouTube i geisio achub y Theatr.
“Dylai fod gan y Gweinidog Treftadaeth a Chyngor Celfyddydau Cymru gywilydd ohonyn nhw eu hunain,” meddai Gary Meredith o Theatr Gwent wrth Golwg360.
“Mae pobol Gwent yn flin iawn am y peth,” meddai. “Mae ysgolion yn meddwl ei fod yn ofnadwy. Mae’r ardal yr ’yn ni’n ei gwasanaethu yn un o’r rhai sydd wedi’u hamddifadu fwyaf yng ngorllewin Ewrop.”
Deiseb ar-lein
Mae 800 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb ar-lein, lle mae’r Theatr yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i “annog Llywodraeth Cymru” i sicrhau bod cyllid yn parhau ar gyfer Theatr Gwent.
“Mae cael gwared ar yr adnodd gwerthfawr hwn sydd wedi gwasanaethu cymunedau am dros ddeng mlynedd ar hugain yn amddifadu pobl ifanc o gyfle arwyddocaol i ymwneud â’r Celfyddydau” meddai datganiad gyda’r ddeiseb.
Fe fydd y ddeiseb yn cau ar 17 Tachwedd – ond mae’r Theatr yn pwysleisio fod yr ymgyrch yn parhau wedi hynny.
Fe gafodd Theatr Gwent ei sefydlu yn 1976 ac mae’n rhan o rwydwaith o wyth cwmni Theatr mewn Addysg broffesiynol ar draws Cymru sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Awdurdodau Lleol unigol.
(Llun: O wefan Theatr Gwent)