Mae dirprwy arweinydd Plaid Cymru wedi croesawu cynnig hanesyddol ar y refferendwm i Gymru sydd yn debyg o gael ei basio heddiw.

Mae Helen Mary Jones AC yn dweud bod yr achlysur yn un “diffiniol” yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.

Mae hefyd yn dweud ei fod yn cyflawni un o brif addewidion cytundeb Cymru’n Un sy’n sail i’r llywodraeth glymblaid yng Nghaerdydd.

“Mae pobol Cymru’n haeddu cael senedd a fydd yn sefyll drostyn nhw yn erbyn y math o doriadau milain a welsom o du Llundain,” meddai’r AC. Fe fyddai hawliau cryfach i ddeddfu’n “darian” yn erbyn ymosodiadau ar wasanaethau Cymru.

Fe fydd y refferendwm, ar roi hawl cyffredinol i’r Cynulliad greu cyfreithiau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, yn cael ei gynnal ar 3 Mawrth y flwyddyn nesa’ ond, hyd yn hyn, does dim ymgyrchu o ddifri wedi bod ar y naill ochr na’r llall.

‘Gwastraff arian ac amser’

Mae Helen Mary Jones wedi ymosod ar y drefn o wneud cyfreithiau newydd trwy Orchmynion Deddfu neu eLCOs – pan fydd rhaid i’r Cynulliad ofyn am hawl San Steffan i wneud deddfau am bynciau penodol.

“Fe fu’n anhygoel o anodd ei gweithredu, ac mae wedi arwain at wastraffu symiau enfawr o arian a llawer gormod o amser,” meddai.

“Rydym wedi gweld deddfwriaeth berffaith resymol, megis y mesur i ofalu bod gan blant wregysau ar fysus ysgol yn mynd ar goll am rhy hir yng nghymhlethdod y system eLCO am rhy hir.”