Fe fydd siopau Marks and Spencer yn troi’r cloc yn ôl trwy ganolbwyntio unwaith eto ar frandiau’r cwmni ei hun, yn hytrach na rhai o’r tu allan.

Wrth gyhoeddi bod elw’r cwmni wedi codi 17% yn chwe mis cynta’r flwyddyn, fe ddywedodd y Prif Weithredwr newydd, Marc Bolland, y bydden nhw’n tynnu sylw at bethau oedd ar werth “Yn M&S yn unig”.

Fe fyddai hynny’n golygu canolbwyntio ar ddillad a bwydydd M&S ac is-frandiau dillad fel Per Una ac Indigo.

Mae hefyd eisiau torri ar nifer y brandiau eraill o fwyd sy’n cael eu gwerthu trwy’r siopau, o 400 i 100.

Yn ôl at yr hen drefn

Dim ond yn y blynyddoedd diwetha’ y dechreuodd M&S werthu brandiau eraill o gwbl – cyn hynny brand St Michaels oedd popeth.

Mae Marc Bolland hefyd eisiau sicrhau bod 95% o boblogaeth gwledydd Prydain o fewn hanner awr i un o siopau’r cwmni.

Fe ddaeth Marc Bolland at M&S o gwmni archfarchnadoedd Morrison’s, lle’r oedd wedi llwyddo i gynyddu eu siâr o’r farchnad yn erbyn y tri mawr, Tesco, Asda a Sainsbury’s.

Yn ystod y chwe mis hyd at ddechrau Hydref, roedd elw Marks and Spencer wedi codi i £348.6 miliwn.

Llun: Rhan o hysbyseb Nadolig M&S (o wefan y cwmni)