Roedd poenydio carcharorion wedi helpu i achub bywydau, yn ôl cyn Arlywydd yr Unol Daleithiau, George Bush.

Yn ei hunangofiant sy’n cael ei gyhoeddi’r wythnos hon, mae’n cyfiawnhau’r arfer o ‘fyrddio dŵr’ – gwneud i garcharorion feddwl eu bod yn boddi.

Yn y gyfrol, Decision Points, mae’n dadlau bod yr wybodaeth a ddaeth trwy hynny wedi helpu i atal ymosodiadau terfysgol, gan gynnwys rhai yng ngwledydd Prydain.

Mae wedi bod yn gwneud yr un honiadau wrth fynd o stiwdio i stiwdio’n gwneud cyfweliadau i dynnu sylw at y llyfr – ymhlith ychydig iawn o gyfweliadau y mae wedi eu gwneud ers gadael y Tŷ Gwyn.

“Roedd cyfreithwyr yn dweud ei fod yn gyfreithlon,” meddai ar deledu NBC. “Rhaid ichi ymddiried ym marn y bobol o’ch cwmpas, ac fe wnes i hynny.

“Fy ngwaith i oedd amddiffyn America, ac fe wnes i hynny. Fe lwyddodd y technegau yma i achub bywydau.”

Llun: Rhan o glawr yr hunangofiant