Roedd gafodd noson arbennig ei chynnal neithiwr i gofio Aelod Seneddol o Gymru oedd yn un o wleidyddion pwysica’ ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Roedd y cyn arweinyddion Llafur, Neil Kinnock a Gordon Brown, ymhlith y gynulleidfa yn Theatr y Lyric yn Llundain i roi teyrnged i Michael Foot.

Ac yntau’n arweinydd Llafur yn un o’i chyfnodau anodda’ erioed, rhwng 1980 ac 1983, fe fu’n aelod seneddol tros ardal Glyn Ebwy o 1960 i 1992.

Yn ôl teyrngedau yn y noson o gerddoriaeth a barddoniaeth, fe gafodd ei alw’n “arweinydd mawr” ac yn “dân gwyllt o ddyn”.

Ef a sgrifennodd fywgraffiad y Llafurwr mawr o Gymru, Aneurin Bevan, ac roedd yn un o’i gefnogwyr penna’ nes iddyn nhw ddadlau tros ddiarfogi niwclear – Michael Foot oedd un o sylfaenwyr Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear, y CND.

Llun: Michael Foot yn ddyn ifanc