Mae’r BBC’n honni bod problemau mawr gyda dau goleg tramor sy’n cael cefnogaeth Prifysgol Cymru.

Mae’r ddau goleg yn cynnig graddau sy’n cael eu dilysu gan y Brifysgol ac, yn ôl un gwleidydd, mae angen i’r Llywodraeth gynnal arolwg o waith y sefydliad.

Fe fydd rhaglen Week In Week Out heno’n dangos fod pennaeth un coleg ym Malaysia – canwr pop – wedi dweud celwydd ynglŷn â’i gymwysterau, tra bod coleg yng Ngwlad Thai ar un adeg wedi ei wahardd gan yr awdurdodau yno.

Mae’r Brifysgol yn dweud eu bod yn cynnig graddau i 20,000 o fyfyrwyr tramor.

‘Gwneud drwg i holl brifysgolion Cymru’

Mae’r Brifysgol wedi bod “yn naïf neu’n hynod o ddiofal,” meddai llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, Jenny Randerson.

Roedd hi’n dweud ar Radio Wales heddiw bod achosion tebyg wedi bod o’r blaen ac fe alwodd ar y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, i gynnal arolwg o waith y Brifysgol.

“Fe ddylai gweinidogion afael yn y sefyllfa,” meddai. “Mae’r rhan fwya’ o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn gysylltiedig â’r Brifysgol trwy un fath o berthynas neu’r llall, felly mae hyn yn eu tanseilio nhw hefyd.”

Ymateb y Brifysgol

Yn ôl y BBC, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod y sylw’n gwneud drwg ac maen nhw wedi gweithredu – mae’r cysylltiad gydag un coleg wedi’i atal ac mae problemau’r llall wedi eu datrys.

Llun: Yr Athro Mark Clement, Is-ganghellor y Brifysgol (O’u gwefan)