Mae rhwng 10,000 ac 20,000 o bobol wedi gorfod dianc o Burma – Myanmar – oherwydd gwrthdaro rhwng y fyddin a grŵp ethnig.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae tri o bobol wedi cael eu lladd a deg wedi eu hanafu yn ystod tridiau o ymladd ar ôl yr etholiadau yn y wlad.
Mae’r gwrthdaro’n digwydd ar y ffin gyda gwlad Thai ac yn ôl Al Jazeera roedd un roced wedi taro ar ochr anghywir y ffin.
Ymladd am annibyniaeth
Mae’r ymladd yn digwydd rhwng byddin Burma a grŵp sy’n cynrychioli lleiafrif o grŵp y Karen sydd wedi bod yn ymladd am annibyniaeth ers sefydlu’r wlad yn 1948.
Mae’n ymddangos bod y garfan sy’n ymladd – Byddin Fwdaidd Ddemocrataidd Karen – wedi bod â chytundeb heddwch gyda byddin Burma ond eu bod wedi gwrthryfela tros ymgais i’w gorfodi i ymuno â llun gwarchod y ffin.
Yn ôl rhai adroddiadau, mae tua chwarter miliwn o bobol eisoes ar ffo ar ochr arall y ffin â gwlad Thai.
Condemnio’r etholiad
Fe ddaw’r ymladd ar ôl i lywodraeth filwrol Burma gael eu cyhuddo o dwyllo wrth gynnal yr etholiadau cynta’ yno ers 20 mlynedd.
Doedd hi ddim yn iawn bod y junta wedi “dwyn yr etholiad”, meddai Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama.
Dim ond dwy blaid filwrol oedd yn sefyll ar draws y wlad ac roedd y brif wrthblaid, dan arweiniad Aung San Suu Kyi, yn boicotio’r ymgyrch.
Llun: Pentref Karen tros y ffin yng Ngwlad Thai (cyhoeddus)