Mae gweinidog diwylliant Llywodraeth San Steffan, Ed Vaizey, wedi dweud bod dyfodol S4C yn sicr ar ôl i’r cytundeb ariannol presennol ddod i ben.
Roedd pryder nad oedd cyllideb S4C yn ymestyn tu hwnt i flwyddyn ariannol 2014-15, ac roedd rhai yn drwgdybio na fyddai unrhyw arian ychwanegol i’r sianel ar ôl hynny.
Ond mewn cyfweliad a darlledwyd ar raglen y Byd ar Bedwar heno, dywedodd Ed Vaizey bod “dyfodol hir o flaen y sianel” ac y byddai yna arian i’w gefnogi tu hwnt i 2015.
“Mae’r setliad ariannol pedair neu bum mlynedd yn rhoi S4C yn union yr un sefyllfa ag Amgueddfa Prydain,” meddai Ed Vaizey.
“Dyw’r Amgueddfa Brydeinig ddim yn dod ata’i a gofyn, well mae gyda ni gyllid tan 2014-15, beth sy’n digwydd wedyn?
“Yn amlwg, fe fydd y nawdd yn parhau ar gyfer S4C yn y dyfodol.”
‘Darogan gwae’
Dywedodd nad oedd o’n derbyn y feirniadaeth bod Llywodraeth San Steffan wedi dangos amarch tuag at Gymru drwy beidio ag ymgynghori gydag Awdurdod S4C na Llywodraeth y Cynulliad cyn dod i benderfyniad ynglŷn â dyfodol y sianel.
Dywedodd nad oedd darlledu yn fater datganoledig a bod rhai pobol yn “chwarae gemau gwleidyddol”.
“Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau dyfodol S4C ac mae o wir yn fy nigalonni i fod rhai pobol yn chwarae gemau gwleidyddol, ac yn darogan gwae ynglŷn â dyfodol y sianel am nad ydyn nhw’n teimlo ein bod ni wedi ymgynghori digon gyda nhw.
“Mae gan S4C ddyfodol hir o’i flaen.”
Awgrymodd hefyd fod yna rywfaint o ddrwgdeimlad rhwng ei adran a S4C, wrth ymateb i’r honiad bod Llywodraeth San Steffan wedi rhoi’r sianel dan adain y BBC er mwyn cael gwared ohono.
“O ystyried rhai o’r pethau oedd S4C wedi ei ddweud amdanom ni yn y gorffennol, efallai mai S4C oedd eisiau cael gwared ohonom ni!”