Mae Gavin Henson wedi cyfaddef nad ydi o hyd yn oed wedi gwylio gêm o rygbi yn ystod ei hoe 18 mis o’r gêm.

Fe gafodd Gavin Henson ei gyflwyno’n swyddogol i gefnogwyr y Saraseniaid yn Vicarage Road yn ystod hanner amser gêm gyfartal Cwpan LV= yn erbyn Northampton ddoe.

“Dyna’r gêm gyntaf o rygbi i mi ei wylio mewn 18 mis. Fe wnes i fwynhau a does dim llawer wedi newid,” meddai.

Serch hynny dywedodd ei fod o’n siwr y byddaui’n barod i chwarae rygbi unwaith eto o fewn mis.

Mae’n gobeithio ail-danio ei yrfa yn Lloegr ar ôl gadael y Gweilch i ymuno gyda’r Saracens fis diwethaf.

Ond mae Henson yn dal i gystadlu ar raglen Strictly Come Dancing ac mae’n bosib na fydd yn dychwelyd i fyd rygbi tan i’r rhaglen ddod i ben dros y Nadolig.

“Mae’n rhaid i mi fod yn amyneddgar. Mae’n siwr y bydd yna tair i bedair wythnos cyn i mi gael y cyfle i chwarae eto,” meddai Henson ar wefan swyddogol ei glwb newydd.

“Rwy’n edrych ymlaen i fod yn ôl ar y cae.”