Mae Nathan Cleverly wedi dweud y bydd o’n anwybyddu sylwadau’r Americanwr Tavoris Cloud am y tro er mwyn canolbwyntio ar herio Alejandro Lakatus fis nesaf.
Fe fydd y Cymro yn herio Lakatus am goron interim is-drwm y byd yn Lerpwl ar 11 Rhagfyr, ac fe fyddai buddugoliaeth yn gam arall tuag at gipio coron y byd.
Ond mae Tavoris Cloud wedi galw am ornest yn erbyn y Cymro, gan honni y gallai guro Cleverly ar dir Prydeinig.
Dyw Tavoris Cloud heb golli unwaith mewn 21 gornest ac mae o’n bencampwr is-drwm IBF y byd.
Ond mae Nathan Cleverly am sicrhau ei fod yn ennill ei ornest holl bwysig yn erbyn Alejandro Lakatus cyn troi ei olygon at unrhyw wrthwynebydd arall.
“Dw i ddim yn siŵr pam fy mod i’n cael holl sylw Cloud. Mae’n amlwg bod ei ben yn y cymylau!” meddai Nathan Cleverly, yn glyfar.
“Dywedodd Cloud y byddai’n gorffen fy ngyrfa bocsio i’n gynnar, ond rwy’n credu y byddwn i’n dod a’i yrfa ef i ben.
“Mae wedi cael buddugoliaethau da yn erbyn Glen Johnson a Clinton Woods, ond rwy’n focsiwr ifanc a ffres fydd yn gwella wrth i mi aeddfedu.
“Ond rwy’n canolbwyntio ar yr ornest yn erbyn Lakatus ac rwy’n dymuno’n dda i Tavoris Cloud yn ei ornest nesaf.”