Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2011 wedi dechrau yn swyddogol heddiw, ac mae gan gantorion a chyfansoddwyr Cymru ddeufis i gylfwyno eu campweithiau cerddorol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r caneuon yw 7 Ionawr 2011, ac fe fydd wyth cân yn cael eu dewis o’u plith ar gyfer y rhestr fer.
Fe fydd yr wyth cân yma yn cael eu perfformio yn fyw ym Mhafiliwn Bontrhydfendigaid ar S4C ar 6 Mawrth 2011.
Fe fydd y gân fuddugol yn cael ei dewis gan bleidlais gyhoeddus ar y noson, ac yn derbyn gwobr ariannol o £7,500, yn ogystal â chael mynd ymlaen i gynrhychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd y flwyddyn nesaf.
Mae’r wobr ariannol yn llai na gwobr £10,000 y gystadleuaeth Cân i Gymru ddiwethaf. Roedd y cyn enillydd Arfon Wyn wedi beirniadu’r wobr eleni, gan ddweud ei fod o’n ormod.
Enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru 2010 oedd Alun Tan Lan gyda’r gân fuddugol ‘Bws i’r Lleuad’. Tomos Wyn, sydd bellach yn ymddangos ar Rownd a Rownd ar S4C, oedd yn perfformio’r gân.
Cwmni Avanti sy’n cynhyrchu cystadleuaeth Cân i Gymru ar ran S4C, ac er mwyn cael mwy o fanylion am y gystadleuaeth, cysylltwch ag Avanti ar 01443 688530 neu canigymru2010@thepopfactory.com.