Mae cwmni Qantas Airways yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i injans yn gollwng olew ar dair o’u hawyrennau Airbus A380.
Gwnaethpwyd y darganfyddiad wrth i beirianwyr ymchwilio i ffrwydrad injan un o’r awyrennau funudau’n unig ar ôl iddi adael y maes awyr wrth gludo teithwyr o Singapore i Awstralia’r wythnos ddiwethaf.
Bu’n rhaid i’r awyren oedd yn cario 466 o deithwyr lanio ar frys yn Singapore, ac yn fuan wedyn cafodd chwech o awyrennau A380 y cwmni o Awstralia eu hatal rhag hedfan.
Ar ôl wyth awr o archwiliadau manwl dros y penwythnos, dywedodd y prif weithredwr Alan Joyce heddiw fod peirianwyr wedi darganfod olew yn gollwng yn ardal tyrbeini tair injan ar dair awyren A4380 gwahanol.
“Roedd yr injan yn gollwng olew tu hwnt i’r lefel derbyniol,” meddai Alan Joyce “Oherwydd hynny ni fydd unrhyw awyrennau A380 yn hedfan am o leia’ 72 awr arall.
“D’yn ni ddim yn mynd i gymryd unrhyw risg. Ry’n ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n hollol saff.”
Cais am ddarnau o’r injan
Mae Swyddfa Ddiogelwch Trafnidiaeth Awstralia, sy’n arwain yr ymchwiliad rhyngwladol i ffrwydriaid injan yr A380, wedi galw am help gan drigolion ynys Batam yn Indonesia i ddod o hyd i ddarn colledig o dyrbein yr injan.
Disgynnodd cawod o ddarnau o’r A380 dros yr ynys pan ffrwydrodd yr injan ddydd Iau diwethaf.
“Gallai dod o hyd i’r ddisg fod yn rhan allweddol o ddeall natur y broblem gyda’r injan, ac fe allai fod o gymorth wrth osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol,” meddai llefarydd ar ran y swyddfa.
Rhyddhawyd llun o ddisg tebyg i’r un sydd ar goll, gydag apêl i unrhyw un sy’n dod o hyd iddo ei roi i’r heddlu.