Fe fu farw bachgen yn ne Fietnam ar ôl i eliffant gwyllt sathru arno.

Dywedodd pennaeth pentref cyfagos , Ngo Van Son, bod y bachgen 14 oed a’i berthnasau yn reidio beiciau modur drwy jyngl yn nhalaith Dong Nai pan ymosododd yr eliffant.

Dioddefodd y bachgen anafiadau i’w ben a’i frest ac fe fu farw ar ei ffordd i’r ysbyty. Dihangodd cefnder y bachgen a’i lystad yn ddianaf.

Roedd yr anifail yn un o saith eliffant gwyllt sy’n byw yn yr ardal, tua 75 milltir i’r gogledd ddwyrain o Ddinas Ho Chi Minh.

Anaml iawn y mae eliffantod yn ymosod ar bobl ond mae’n debyg bod yr eliffantod gwyllt yn ofn beiciau modur ac wedi malu sawl un yn barod.

Mae gan Fietnam tua 70 i 100 o eliffantod gwyllt yn weddill.