Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod disgwyl iddyn nhw werthu mwy o docynnau ar gyfer gweddill gemau cyfres yr hydref.

Roedd yna glytiau moel mawr yn nhorf Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn pan heriodd Cymru Awstralia.

Dim ond 53,127 o bobl oedd yn bresennol – un o’r ffigurau isaf ar gyfer gêm rygbi yn erbyn un o fawrion y gêm.

Dywedodd Roger Lewis nad oedd y tocynnau ‘pris canolig’ £40 heb werthu’n dda a bod yr undeb yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i lenwi’r stadiwm 74,500 sedd.

Yn ôl y Prif Weithredwr fe fydd tocynnau teulu sy’n costio llai na £60 ar gael am y tro cyntaf ar gyfer y gemau nesaf. Ychwanegodd y byddai prisiau’n is ar gyfer gem Fiji.

Mae tocynnau eisoes wedi gwerthu allan ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Seland Newydd ond mae tocynnau dal ar gael i gemau De Affrica a Fiji.

‘Ddim yn sioc’

Yn ôl yr undeb mae dros 50,000 o docynnau wedi cael eu gwerthu hyd yn hyn ar gyfer y gêm yn erbyn y Springboks ar y penwythnos.

“Dyw ffigwr ddim yn sioc wrth eu gosod mewn cyd-destun hanesyddol. Yn 2009 roedd 53,000 a 58,000 o gefnogwyr yn gwylio gemau yn erbyn yr Ariannin a Samoa,” meddai Roger Lewis wrth y BBC.

“Yn 2007 roedd 56,000 ar gyfer gêm De Affrica a 48,000 ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc cyn Cwpan y Byd.

“Adeg y dirwasgiad diwethaf yn 2001 a 2002 doedden ni heb werthu pob tocyn i’r un gêm, gan gynnwys Seland Newydd.”

Dywedodd eu bod nhw’n disgwyl gwerthu pob tocyn ar gyfer gemau’r Chwe Gwlad.