Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhybuddio ynglŷn â pheryglon llusernau Tân Tsieineaidd ar ôl i blentyn losgi yn ardal Penycae, Wrecsam, nos Wener.

Roedd y plentyn tair blwydd oed gydag oedolion a phlant eraill oedd wrthi’n rhyddhau’r llusernau papur i’r awyr pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedden nhw’n rhyddhau’r olaf o’r bedair llusern, pan syrthiodd cwyr poeth allan ohono a glanio ar wyneb y plentyn.

“Mae’r llusernau yn boblogaidd, ond rydym yn apelio ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o beryglon y llusernau Tsieineaidd ac i fod yn ofalus wrth eu trin nhw,” meddai Andy Robb, o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru..

“Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn sefyll o dan y llusern pan maen nhw’n cael eu rhyddhau, rhag ofn bod cwyr neu olew yn diferu ohono ac yn achosi anaf.

“Diolch byth, y tro yma doedd anafiadau’r plentyn ddim yn rhy ddifrifol, ac fe gafodd adael Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl triniaeth.”