Mae John Watson yn awyddus i ymladd yn erbyn Gavin Rees unwaith eto ar ôl i’r Cymro ei faeddu er mwyn cipio coron is-bwysau Prydain yng Nghasnewydd dros y penwythnos.

Roedd y frwydr rhwng Rees a Watson ymysg y gorau’ ym Mhrydain eleni cyn i’r dyfarnwr rhoi terfyn ar y brwydro gydag un rownd i fynd.

Mae’r fuddugoliaeth wedi aildanio gyrfa Rees sydd wedi bod yn brwydro ‘nôl ers colli coron y byd i Andreas Kotelnik yn 2008.

Fe fydd Rees yn gobeithio bod cipio y goron Brydeinig yn gam gyntaf tuag at gipio teitl y byd yn ôl. Ond mae Watson yn credu y bydd yna ail ornest rhyngddynt.

“Roedd yn ornest wych ar gyfer y teledu ac mae Sky a’r hyrwyddwr eisiau i ni ymladd eto,” meddai Watson wrth bapur y Liverpool Echo.

“Roedd yr awyrgylch a’r achlysur yn ardderchog. Mae Sky wedi dweud mai dyma oedd gornest y flwyddyn iddyn nhw.

“Fe fydd rhaid i mi ymladd rhywun arall yn gyntaf wedyn wynebu Rees – ond dyw e ddim eisiau ymladd eto.”