Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Seyi Olofinjana wedi galw ar Gaerdydd i ymateb i’w siom o golli’r gêm ddarbi yn erbyn Abertawe gyda buddugoliaeth yn erbyn Reading nos Fercher.
Fe ddywedodd Olofinjana bod y chwaraewyr yn siomedig iawn ar ôl colli yn erbyn eu gelynion pennaf diolch i gôl gan ymosodwr yr Elyrch, Marvin Emnes.
Ond fe fydd cyfle gan yr Adar Glas i aildanio eu tymor yn syth pan fyddan nhw’n teithio i Stadiwm Madejski ganol yr wythnos.
“D’yn ni ddim yn mynd i ennill pob gêm yn ystod y tymor, ond pan fyddwn ni’n colli mae’n bwysig i ni ymateb yn gadarnhaol,” meddai Olofinjana.
“R’yn ni’n ffodus bod gêm arall gennym ni’n syth yn erbyn Reading ac mae’n rhaid i ni wneud y gorau ohono.
“Mae pawb yn siomedig ein bod ni wedi colli i Abertawe ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i wynebu Reading.”
‘Camgymeriadau’
Dywedodd hyfforddwr Caerdydd, Dave Jones, fod yna fwy i’r tymor nag un gêm.
“Roedd pawb yn siomedig ond mae’n rhaid i ni fod yn broffesiynol a tharo ‘nôl nos Fercher,” meddai Dave Jones.
“Does dim byd allwn ni ei wneud ynglŷn â’r canlyniad nawr, ond fe allwn ni ddysgu o’n camgymeriadau.”
Fe fydd QPR yn gallu ymestyn eu mantais dros Gaerdydd ar frig tabl y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Portsmouth nos yfory, ac fe allai Abertawe, sy’n drydydd, gynyddu’r pwysau ar Gaerdydd gyda buddugoliaeth yn erbyn Dinas Bryste nos Fercher.