Mae Gethin Jenkins wedi dweud y bydd rhaid i Gymru i fod “ychydig yn fwy craff” wrth iddynt baratoi i wynebu De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Fe fydd Cymru’n gobeithio taro ‘nôl ar ôl colli yn erbyn Awstralia dros y penwythnos.
Dyw Cymru heb guro’r Springboks mewn 11 gêm gan adael i Dde Affrica sgorio yn agos i 370 o bwyntiau yn eu herbyn.
Mae Jenkins yn credu y bydd tîm Warren Gatland yn gwella ar eu perfformiad yn erbyn y Wallabies.
“Roedden ni wedi methu ambell i gyfle ac fe alle’n ni fod wedi rheoli’r gêm yn well ymysg y blaenwyr,” meddai Jenkins.
“R’yn ni wedi gwneud lot o waith yn y sgrym dros y pythefnos diwethaf gan wybod y byddai’n rhan fawr o’r gêm yn erbyn Awstralia ac yn ystod yr wythnosau i ddod.
“Roedd yna hefyd bwyslais ar gadw David Pocock dan reolaeth. Roedd pawb yn gwybod pa mor dda oedd ‘e ac am y rhan fwyaf o’r gêm fe lwyddon ni.
“Ond fe lwyddodd Awstralia i fanteisio ar ein gwendidau.
“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio mwy pan ydan ni’n colli’r meddiant. Rwy’n credu y gallen ni fod ychydig yn fwy craff yn y ffordd r’yn ni’n chwarae ambell waith.
“Roedd y bois yn siomedig, ond mae’n rhaid i ni ail edrych ar bethau a gweithio’n galed yr wythnos yma.”