Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu dileu cymal mewn Adroddiad Addysg a oedd yn dweud y byddai 31 ysgol yn cau yn y sir dros y blynyddoedd nesaf.

Fe bleidleisiodd cynghorwyr ar y Pwyllgor Craffu ar Addysg yn unfrydol o blaid argymell i’r Bwrdd Gweithredol y dylid dileu’r cymal a oedd yn dweud bod rhaid “lleihau nifer yr ysgolion cynradd o 115 i 84”.

Roedd ymgyrchwyr a rhieni’n flin ar ôl i ysgolion gael eu hychwanegu at y rhestr heb rybudd, a cyn i’r broses ymgynghori ddechrau hyd yn oed.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith, oedd yn rhan o’r ymgyrch, eu bod nhw’n “llongyfarch” y pwyllgor ar eu penderfyniad.

“Cytunodd y cynghorwyr o bob plaid yn y cyfarfod y byddai cynnwys y geiriad yma yn rhoi’r argraff eu bod nhw fel Cyngor eisoes wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol yr ysgolion, ac y dylid ei ddileu er mwyn i’r ymgynghori gydag ysgolion fod yn ymgynghori teg, agored a phositif,” meddai Cymdeithas yr Iaith.


‘Rhaid gwrando’

“Mae’n hollbwysig ein bod ni fel rhieni, llywodraethwyr a chyfeillion ysgolion Sir Gâr yn gweithio ar syniadau nawr ar sut i ddatblygu ein hysgolion, boed yn ffederasiwn gydag ysgolion eraill neu drafodaeth ar ddefnydd ehangach o adeilad yr ysgol,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gar a rhiant yn ysgol Bancffosfelen.

“Y nod fydd bod yn barod pan ddaw’r cyfnod adolygu i’n hardal ni gydag ateb arall, yn hytrach na chau, i’r swyddogion.

“Mae’r cynghorwyr heddiw wedi dangos arweiniad i’r swyddogion drwy ddweud y dylsant adolygu ysgolion yn deg ac agored heb eu bod eisoes wedi penderfynu ar y trywydd y maent am ei ddilyn, sef cau a chanoli.”