Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth a thystion ar ôl gwrthdrawiad angheuol ddydd Sadwrn, ar yr A470 rhwng Lodge Nant Ddu a Llwyn Onn.

Dioddefodd Gavin Evans o Gelli Deg, Merthyr o anafiadau angheuol ar ôl cael ei daro gan Nissan Almera llwyd toc ar ôl 11pm, ar 6 Tachwedd.

Talodd ei deulu deyrnged iddo gan ddweud bod “Gavin yn fab ac yn frawd cariadus” ac y bydden nhw’n gweld ei eisiau.

Yr Apêl

Mae’r Heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â’i farwolaeth ac yn awyddus i glywed gan berchennog dau gerbyd oedd yn teithio i’r de hyd yr A470 adeg y digwyddiad.

Mae’r Heddlu’n credu y gallai’r perchnogion fod wedi gweld Gavin Evans yn cerdded ar hyd y ffordd cyn iddo gael ei daro gan y car.

Mae’r Heddlu hefyd eisiau i yrrwr cerbyd gafodd ei weld yn tynnu trelar ar yr A470 i gysylltu gyda nhw, yn ogystal ag unrhyw berson arall oedd dyst i’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 02920 222111 neu Daclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.