Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am gadw S4C yn sianel gyfan gwbl Gymraeg.

Daw hyn ar ôl arolwg oedd yn awgrymu bod y mwyafrif o bobol Cymru, a hyd yn oed y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg, o blaid rhaglenni Saesneg ar y sianel.

Cafodd yr arolwg gan YouGov ei gomisiynu gan raglen Y Byd ar Bedwar, a fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 9.30am heno.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod y sianel, John Walter Jones, y bydd rhaid iddyn nhw ystyried hynny wrth gynllunio dyfodol S4C.

Ond ymatebodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith mai S4C “yw’r unig sianel Gymraeg sydd gennym ni”.
“Dylai’r sianel aros yn gyfan gwbl Gymraeg ac yn driw i weledigaeth y rheini wnaeth frwydro i’w sefydlu,” meddai Bethan Williams wrth Golwg360.

“Mae’r sianel wedi symud yn bell o’r hyn yr oedd o’n wreiddiol – efallai mai dyna pam nad oes yr un perthynas rhwng S4C a’r gwylwyr erbyn hyn.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n ei chadw’n gyfan gwbl Gymraeg er mwyn adlewyrchu Cymru a’i phobl. Mae digon o sianeli Saesneg ‘da ni.”

Manylion yr arolwg

Yn ôl yr arolwg roedd 53% o bobol Cymru o blaid rhoi rhaglenni Saesneg ar S4C a 18% yn erbyn.

Ymysg siaradwyr Cymraeg, roedd y mwyafrif yn llai – 36% o blaid rhaglenni Saesneg a 35% yn erbyn.

Roedd yr arolwg hefyd yn dangos mai dim ond 18% oedd yn credu y dylai arian S4C ddod trwy’r BBC.

Roedd 29% yn credu mai Llywodraeth y Cynulliad a ddylai dalu am y sianel a 13% yn dweud y dylai’r arian ddod gan Lywodraeth San Steffan.

Roedd 55% o’r rhai holwyd – 80% ohonyn nhw yn ddi- Gymraeg – yn credu bod angen sianel deledu yn yr iaith Gymraeg tra bod 25% o’r farn nad oedd ei hangen.

Roedd cyfanswm o 55% hefyd yn cytuno fod S4C yn bwysig i ddiogelu dyfodol yr iaith tra bod 22% yn anghytuno.

Bu YouGov yn cyfweld sampl o 1,206 o oedolion ar draws Cymru. Ychydig dros 200 ohonyn nhw oedd yn Gymry Cymraeg, ac roedd dros 80% o rhain o’r farn fod y sianel yn werthfawr i Gymru.

“Mae’r canlyniadau yma’n dangos pa mor gryf y mae gwerthfawrogiad pobl Cymru o S4C, pa bynnag iaith y mae nhw’n ei siarad,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C.

‘Rhywbeth i’w ystyried’

Dywedodd John Walter Jones wrth y rhaglen bod angen ystyried ychwanegu rhaglenni Saesneg at arlwy’r sianel.

“Wel, mae hwnna’n ffigwr diddorol iawn ac rydw i’n meddwl bod angen i rywun edrych ar hyn yn y dyfodol,” meddai.

“Mae rhai wedi dadlau y dylen ni ddarlledu rhaglenni Saesneg, ac wrth gwrs roedd hyn yn arfer digwydd pan oedd rhaglenni Channel 4 yn cael eu darlledu o gwmpas rhaglenni S4C.

“Mae S4C, erbyn hyn, yn sianel Gymraeg. Serch hynny mae hon yn ffaith ddiddorol ac yn rhywbeth fydd yn rhaid, ac a fydd, yn cael ei ystyried wrth symud ymlaen.

“Beth sy’n bwysig, dwi’n meddwl, ydi bod yr arolwg yn dangos bod mwyafrif yn gwerthfawrogi bodolaeth S4C ac eisiau gweld y sianel yn datblygu a ffynnu.”

Ymosod ar y sianel

Yr wythnos ddiwethaf beirniadodd S4C y llywodraeth yn San Steffan a’r cyfryngau, gan ddweud eu bod nhw’n defnyddio ffigyrau gwylio’r sianel er mwyn ymosod arni.

Dywedodd Carys Evans, Pennaeth Ymchwil y sianel, ei bod hi’n “gwbl annheg” cymharu ffigyrau gwylio S4C cyn ac ar ôl i’r sianel roi’r gorau i ddarlledu rhaglenni Saesneg.

Ddydd Sadwrn fe aeth mwy na 1,500 o bobol i rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd er mwyn protestio yn erbyn y toriadau o 25% i gyllideb y sianel a’r bygythiad i’w hannibyniaeth.