Fe allai hyd at 1,000 o filwyr Prydain aros yn y wlad tu hwnt i 2015 er mwyn hyfforddi byddin a heddlu’r Afghanistan, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd y Cadfridog Syr David Richards, pennaeth newydd y lluoedd arfog, y bydd rhaid i filwyr Prydain aros yn y wlad “cyhyd ag y mae eu hangen nhw”.

Ychwanegodd na fyddai’n ystyried lleihau faint o filwyr sydd yn y wlad cyn 2012, ac y byddai’r 10,000 o filwyr sydd yn y wlad yn “ysgwyddo’r baich” dros y flwyddyn nesaf.

“Rydym ni mewn rhan o Afghanistan sy’n gofyn lot, ac yn anochel felly, fe fyddwn ni’n ysgwyddo’r baich drwy gydol y flwyddyn newydd,” meddai wrth bapur newydd y Sun.

“Ar ôl 2015 fe fyddwn ni mewn rôl gefnogol. Ond rydym ni wedi treulio cymaint o amser, ymdrech ac, ie, bywydau ar hyn.

“Y peth gwaetha’ bosib fyddai gadael cyn i ni orffen ein gwaith yn iawn.

“Mae’n hollol glir. Rydym ni wir yn dweud y gwir wrth ddweud y byddwn ni yno cyhyd ag y mae ein hangen ni.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau pobol Afghanistan nad ydym ni am droi ein cefnau a gadael y wlad.”

Ychwanegodd bod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth ddanfon milwyr i Afghanistan naw mlynedd yn ôl, ond bod angen argyhoeddi’r cyhoedd ei bod hi’n “ryfel cyfiawn”.

“Mae pobol fel pe baen nhw wedi anghofio am 9/11 – ydach chi’n gallu cofio’r bobol yna’n neidio allan o’r ffenestri?”