Mae’r Sioe Frenhinol wedi dechrau ar brosiect i warchod Prif Gylch y Sioe Frenhinol rhag effeithiau’r tywydd.

Fe fydd y gwaith yn y Prif Gylch, sydd i fod i gostio tua £500,000, yn gosod system ddraenio newydd, ynghyd â defnyddio math mwy gwydn o borfa, meddai llefarydd wrth Golwg 360.

Mae tair allan o’r pedair Sioe ddiwethaf wedi dioddef oherwydd tywydd garw.

Penderfynodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei bod hi’n bryd gwneud rhywbeth er mwyn osgoi’r mwd mawr yn y Prif Gylch.

Y gobaith yw y bydd hyn yn arbed y Prif Gylch yn ystod wythnosau mwy glawog y Sioe Frenhinol, ac yn sicrhau fod y Prif Gylch yn un o’r llwyfannau gorau ar gyfer arddangos cynnyrch Cymru i’r byd.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau cyn sioe 2012.

Doedd y Gymdeithas ddim yn fodlon rhoi sylw ynglŷn ag effeithiau’r gwaith ar y Ffair Aeaf a fydd yn cael ei gynnal ar faes y Sioe yn Llanelwedd ar 29 a 30 Tachwedd eleni.