Mae chwaraewr rheng ôl Wasps, Andy Powell wedi cael ei ychwanegu at garfan Cymru wrth iddynt baratoi i wynebu De Affrica’r penwythnos nesaf.
Roedd Powell eisoes wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan ond mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi ei gynnwys yn swyddogol.
Dyw Powell heb chwarae ar y lefel rhyngwladol ers i Gymru faeddu’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror.
Fe gafodd y Cymro ei ollwng o’r garfan ar ôl cael ei gyhuddo o yrru bygi golff ar y ffordd yn dilyn y fuddugoliaeth ddadleuol.
Fe gafodd Andy Powell ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau prawf yr haf yn erbyn De Affrica a Seland Newydd, ond bu rhaid iddo dynnu ‘nôl oherwydd anaf.
Byrne i wynebu’r Boks?
Mae Warren Gatland yn gobeithio croesawu Lee Byrne ‘nôl i’r garfan i herio De Affrica ar ôl iddo fethu’r gêm yn erbyn Awstralia gydag anaf i’w law.
Fe fydd hynny hefyd yn galluogi Gatland i symud James Hook o safle’r cefnwr i naill ai’r canol neu safle’r maswr.
Fe fydd y tîm hyfforddi hefyd yn ystyried ffitrwydd Ryan Jones ar ôl iddo golli’r gêm dros y penwythnos gydag anaf i’w goes.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd Lee Byrne ar gael ac fe fyddwn ni hefyd yn cadw llygad ar Ryan,” meddai Warren Gatland.
Fe fydd Warren Gatland yn enwi’r tîm i wynebu De Affrica ddydd Iau yma.