Mae’r BBC wedi dweud heddiw nad oes yna unrhyw arian ychwanegol ar gael er mwyn datrys ffrae chwerw dros bensiynau staff.

Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr wedi bygwth galw streiciau newydd dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd os nad oes cytundeb newydd cyn hynny.

Dydd Gwener a Sadwrn roedd gwasanaethau’r BBC, gan gynnwys Radio Cymru a gwefan Newyddion y gorfforaeth wedi eu heffeithio gan y cyntaf o’r streiciau 48 awr.

Mae disgwyl streic arall 48 awr wythnos i heddiw os nad ydi’r BBC a’r undeb yn gallu dod i gytundeb.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Jeremy Dear, y byddai’n atal y streic pe bai rheolwyr y BBC yn cytuno i drafod cytundeb newydd pan fydd maint y diffyg yn y gronfa bensiwn yn cael ei asesu’n llawn y flwyddyn nesaf.

Mae’r BBC yn rhagweld y bydd diffyg £1.5 biliwn yn y pensiwn, ond mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr ac undeb darlledwyr Bectu yn credu y gallai fod yn is.

“Y flwyddyn nesaf fe fydd pawb yn gwybod beth yw’r diffyg – yn hytrach na’r amcan ar hyn o bryd,” meddai Jeremy Dear.

Ond dywedodd Lucy Adams, pennaeth BBC People, bod y gorfforaeth wedi dod i gytundeb gyda phob undeb arall ynglŷn â’r newidiadau i bensiynau’r staff.

“Mae gennym ni gytundeb gyda gweddill y staff. Rydym ni wedi dweud nad oes yna fwy o arian ar y bwrdd. Dydw i ddim am droi cefn ar weddill yr undebau a gwneud cytundeb ar wahân gydag undeb y newyddiadurwyr,” meddai.