Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, a’i bartner wedi cyhoeddi genedigaeth eu hail fab.

Cyrhaeddodd y bachgen yn hwyr neithiwr, yn pwyso 8 pwys 3 owns, yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur.

Mae’r fam Justine Thornton a’r babi yn gwneud yn dda ar ôl yr enedigaeth yn Ysbyty University College, Llundain.

“Mae Ed a Justine wrth eu bodd gyda genedigaeth eu hail blentyn,” meddai. “Mae’r ddau eisiau diolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn yr ysbyty.”

Fe fydd Ed Miliband yn cymryd hoe pythefnos o hyd o San Steffan, a bydd dirprwy arweinydd y blaid, Harriet Harman, yn cymryd ei le.

Does dim manylion eto ynglŷn ag enw’r bachgen. Mae gyda nhw eisoes un bachgen 18 mis oed, Daniel.

“Diolch am yr holl gyfarchion,” meddai Ed Miliband ar Twitter. “Mae o’n berffaith. Mae’r fam a’r babi yn gwneud yn wych.”