Anghofiwch y dawnsio, mae un o gyfrinachau llwyddiant y chwaraewr rygbi, Gavin Henson, wedi cael ei ddatgelu.

Wrth baratoi at y rhaglen deledu Strictly Come Dancing, mae’n ymddangos bod y canolwr rhyngwladol yn cymryd cymaint o amser â’r merched i gael ei golur yn iawn.

Ac, yn ôl ei gyd-gystadleuydd, Pamela Stephenson, mae hynny’n cynnwys cael ychydig o “olau a chysgod” ar ei “abs” – cyhyrau’r stumog.

Fe ddaeth y newyddion syfrdanol ar raglen Women’s Hour ar Radio 4 ac, yn ôl Pamela Stephenson, mae’r Cymro’n gwbl agored am ei awydd i edrych yn dda.

Hyd y gŵyr Golwg 360, does dim ymateb wedi dod eto gan rengoedd blaen y Gweilch a chlwb newydd Gavin Henson, y Saracens.